Pam mae fy nghyfrif wedi cael ei analluogi?
Mae dau reswm pam y byddai eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein yn ymddangos wedi’i analluogi, sef naill ai:
- Rydych chi wedi methu mynychu gormod o apwyntiadau (nifer yr apwyntiadau a osodir gan eich meddygfa),
neu
- Mae eich meddygfa wedi analluogi eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein.
Os yw’ch cyfrif Fy Iechyd Ar-lein wedi cael ei analluogi, cysylltwch â’ch meddygfa i gywiro hyn.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.